Creigiau - Pentyrch - Capel Llanilltern - Gwaelod y Garth

 
 

Hanes Pentyrch History

Caeryrfa

Saif Claddfa Caer yr Arfau tua 300 llath i'r gogledd o bentref. Dyma’r adeilad hynaf yn yr ardal ac mae’n dyddio o’r oes Neolithig tua 3,000CC. Cafodd ei adeiladu, fwy na thebyg fel claddfa i bennaeth lleol a’i deulu ac mae’n dystiolaeth o fywyd a marwolaeth pan oedd y cylch ym meddiant ffermwyr a helwyr yn yr oes gyn-geltaidd.

Mae enw'r gromlech wedi achosi cryn ddadlau ymhlith haneswyr. Credir fod yr enw yn cyfeirio at maes y gad mewn rhyfel. Pan ddarganfuwyd esgyrn yn y gromlech efallai fod y pobl wedi meddwl fod y cyrff wedi eu claddu ar ôl cael eu llad mewn rhyfel.

Hon yw'r adeilad hynaf o bell ffordd yn yr ardal ac mae'n dod o'r oes Neolithic pan ddaeth y ffermwyr cyntaf i fyw i'r rhan yma o'r wlad.